Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (167)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys Aled Roberts (Gogledd Cymru): O ystyried y dirywiad yng nghanlyniadau Cymru mewn perthynas â’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i wella, ar fyrder, y safonau addysg a chyrhaeddiad yng Nghymru?
|
2 Cwestiynau i’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
|
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
4 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Ymatebion i’r Papur Gwyn “Rhentu Cartrefi” (30 munud)
|
5 Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru) (60 munud)
NDM5376 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11: Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Addysg (Cymru). Gosodwyd Bil Addysg (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 1 Gorffennaf 2013. Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Bil Addysg (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 22 Tachwedd 2013.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw rhan 3 wedi ei chynnwys mewn Bil anghenion addysgol arbennig ar wahân i blant a phobl ifanc.
Dogfennau Ategol Adroddiad Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ar Bil Addysg (Cymru) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Adroddiad ar y Bil Addysg (Cymru)
|
6 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Addysg (Cymru) (5 munud)
NDM5377 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Addysg (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
|
7 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Adolygu gweithrediad y Ddeddf 4, 1
2. Trefniadau trosiannol 6, 7
3. Cynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu 5, 5A, 3 Gwelliant 5 yw’r prif welliant yn y grŵp Bydd y gwelliannau hyn yn cael eu gwaredu yn y drefn: 5A, 5, 3
4. Ymgynghoriad gan y corff 8
5. Colli swyddi 2
Dogfennau Ategol Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
|
8 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (5 munud)
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)
|
9 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cyllid y GIG (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Trosolwg 1
2. Dyletswyddau ariannol Bryddau Iechyd Lleol 2
3. Dyletswyddau Cyllunio Byrddau Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru 3
4. Cyflwyno Adroddiadau 4, 4A, 5, 7, 8 Bydd y gwelliannau hyn cael eu gwaredu yn y drefn - 4A, 4, 5, 7
5. Pŵer i fenthyca 6
Dogfennau Ategol
Rhestr o Welliannau wedi’u Didoli
|
10 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru) (5 munud)
Ar ddiwedd Cyfnod 3, caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Cyllid y GIG (Cymru) |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2013